Lleoliad:
Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 2 Tachwedd 2021
Amser: 09.01 - 09.31
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at aildrefnu'r datganiad gan Weinidog yr Economi: Economi Wyrddach a’r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gweithredu carbon sero-net a rhaglen ysgolion a cholegau'r 21ain ganrif.
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr ychwanegiadau a ganlyn i agenda dydd Mawrth:
Dydd Mawrth 2 Tachwedd 2021
· Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Amgylchedd (15 munud)
· Cyfnod Pleidleisio (15 munud)
Nododd y Llywydd fod datganiad gan y llywodraeth ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) wedi'i drefnu ddydd Mercher. Esboniodd y Trefnydd fod hyn o ganlyniad i hyd agenda dydd Mawrth, ac y byddai'r llywodraeth yn parhau i osgoi trefnu eitemau ar ddydd Mercher oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol.
3.2 Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 9 Tachwedd 2021 –
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cymru ac Affrica (45 munud)
· Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2021 (20 munud)
· Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2021 (15 mun)
Dydd Mawrth 16 Tachwedd 2021 –
·
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac
Addysg: Llafaredd a Darllen Plant Y Rhaglen
Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol (45 munud)
3.3 Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 24 Tachwedd 2021 –
4 Deddfwriaeth
4.1 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 a Bil yr Amgylchedd; a'r wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canlynol:
4.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a'r penderfyniad a wnaed o ran y dyddiad cau ar gyfer adrodd fel rhan o'r eitem flaenorol.
4.3 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Nododd y Pwyllgor Busnes y materion ehangach a godwyd mewn perthynas â Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ac i ystyried y rhain ymhellach ar ôl i'r trafodaethau rhwng y Senedd a swyddogion y llywodraeth gael eu cwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd mewn egwyddor y dylid ymestyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol canlynol tra'n aros am gyngor pellach gan swyddogion y Senedd a Llywodraeth Cymru:
Bydd dyddiadau cau newydd ar gyfer adrodd ar bob Memorandwm yn cael eu cynnig i'w cytuno y tu allan i'r pwyllgor, yn dilyn trafodaeth gyda Llywodraeth Cymru.
5 Ymgysylltiad Ewropeaidd
5.1 Enwebiadau ar gyfer Cyngres Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol Cyngor Ewrop a Phwyllgor y Rhanbarthau-Grŵp Cyswllt y DU.
Trafododd y Pwyllgor Busnes yr enwebiadau a chytunwyd i ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf.
6 Busnes y Senedd
6.1 Llythyr gan y Prif Weinidog
Trafododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a nododd fod Comisiwn y Senedd yn cymryd camau i gyfyngu ar nifer y staff sy'n gweithio ar ystâd y Senedd mewn ymateb i'r niferoedd uchel presennol o achosion o Covid-19 ledled Cymru. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod cymryd camau tebyg gyda'u grwpiau ac i annog Aelodau nad ydynt yn mynychu'r Cyfarfod Llawn yn bersonol i ymuno â'r cyfarfod oddi ar y safle. Gofynnodd y Llywydd hefyd i Reolwyr Busnes annog Aelodau i ystyried mwy o ddefnydd o orchuddion wyneb yn y Siambr pan nad ydynt yn gwneud cyfraniad.
7 Unrhyw Fater Arall
COP-26
Cododd Darren Millar bryderon am gydbwysedd gwleidyddol y ddirprwyaeth o'r Senedd a aeth i gynhadledd COP-26. Bydd nodyn ar hyn yn cael ei anfon at Reolwyr Busnes.